Agoriad CartrefCartref | Newyddion | Cyrsiau | Cystlylltu | Map Safle | English

Newyddion | 2007 | 2006 | 2005 | 2004 |


Agoriad Yn Croesawu Peter Hain Agoriad Yn Croesawu Peter Hain

Daeth Peter Hain, Aelod Seneddol Castell Nedd, ar ymweliad swyddogol â swyddfeydd Agoriad ym Mhorth Penrhyn, Bangor yn ddiweddar. Wedi iddo gael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Hydref, 2002, daeth Mr Hain yn Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Waith a Phensiynau bum mlynedd yn ddiweddarach ym Mehefin 2007. Gellid gweld ei ymweliad â ni fel rhywbeth fyddai’n ateb dau ddiben felly.

darllenwch ymlaen... 27/09/07

Cyflwyniadau 15 Mlynedd O Wasanaeth I Gaffi Coed-Y-BreninCyflwyniadau 15 Mlynedd O Wasanaeth I Gaffi Coed-Y-Brenin

Yn ddiweddar cyflawnodd tri aelod o staff Caffi Coed-y-Brenin, Bethesda 15 mlynedd o wasanaeth di-dor. I ddathlu’r achlysur, cafwyd cyflwyniadau i gydnabod y gwasanaeth ardderchog sydd wedi’i roi ganddyn nhw dros y cyfnod yma.

darllenwch ymlaen... 24 Medi 2007

Mukesh SudarshanProsiect Graddedigion Yng Nghymru

Croesawyd Mukesh Sudarshan i blith gweithwyr Agoriad yn ddiweddar, gan ei fod yn treulio peth amser gyda’r cwmni fel ‘Cynlluniwr Strategol’. Gwnaed hyn yn bosib fel rhan o brosiect sy’n cynnig cyfleoedd i raddedigion – ‘GO Wales’. Bwriad y cynllun, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ydy annog cwmnïau yng Nghymru i gyflogi mwy o raddedigion.

darllenwch ymlaen... 31 Awst 2007

Michael JonesPortread ‘Cam at Waith’ - Michael Jones

Gŵr ifanc brwdfrydig gafodd ei eni a’i fagu ym mhentref Glanrafon ger Corwen ydy Michael. Yn dilyn cyfnod o brofiad gwaith trwy gyfrwng y cynllun ‘Adeiladu Sgiliau’ yn y modurdy lleol, sef H.G. Thomas Motors Ltd, mae Michael wedi symud ymlaen i waith cyflogedig yn yr un lleoliad gyda chefnogaeth gan y cynllun ‘Cam at Waith’.

darllenwch ymlaen... 15 Awst 2007

David RossingtonPortread ‘Cam at Waith’ - David Rossington

Yn dilyn ei apwyntiad yn 2001, mae David Rossington bellach yn wyneb cyfarwydd y Valley Hotel, sydd yn Dyffryn tua 4 milltir y tu allan i’w gartref yng Nghaergybi ar Ynys Môn. Mae David yn gweithio yn yr adran arlwyo fel cynorthwydd yn y gegin am 25 awr yr wythnos yn y gwesty poblogaidd hwn o ddeunaw llofft.

darllenwch ymlaen... 15 Awst 2007

Kevin Roberts – Rheolwr GweithrediadauKevin Roberts – Rheolwr Gweithrediadau

Ar ddechrau Awst 2007, croesawyd Kevin Roberts i blith staff Agoriad yn dilyn ei apwyntiad yn Rheolwr Gweithrediadau. Mae gan Kevin, sy’n byw yng Nglan Conwy, gefndir o weithio mewn cyd-destun mentergarwch cymunedol gan mai ei swydd flaenorol oedd Rheolwr Datblygu Busnes ar ran Co-Options Cyf ym Mhrestatyn.

darllenwch ymlaen... 13 Awst 2007

Pauline Sampson, Swyddog Cyswllt RURALPob Lwc I Pauline Sampson

Ar ôl bod yn gweithio am chwe mis fel Swyddog Cyswllt RURAL, bydd Pauline Sampson o Lanfairpwllgwyngyll yn gadael Agoriad ym mis Gorffennaf, 2007 er mwyn ehangu ei gorwelion.

darllenwch ymlaen... 18 Gorffennaf 2007

Ras BywydRas Bywyd - Caernarfon 2007

Ar 13 Mai 2007 llwyddodd merched Agoriad i orffen rhedeg eu Ras Bywyd gyntaf. Cyrhaeddodd dros 20 o bobl egnïol sydd â chysylltiad hefo Agoriad y llinell derfyn yn y ras 5K o Gaernarfon ar hyd traeth Aber ger Afon Menai. Llwyddodd yr ymdrech arwrol yma i godi dros £1000 tuag at Ymchwil Cancr y Deyrnas Unedig
darllenwch ymlaen... 15 Mehefin 2007

Portread ‘Cam at Waith’ - Christopher DayPortread ‘Cam at Waith’ - Christopher Day

Erbyn hyn, ar ôl cyfnod o saith mlynedd yn gweithio yng Ngwesty Bae Trearddur, mae Christopher Day o Gaergybi yn hen law yno gan iddo gael ei gyflogi’n wreiddiol yn 2000. Garddwr cynorthwyol oedd Chris pan gafodd ei benodi gyntaf, ond erbyn 2005 fo oedd yr unig arddwr, ac mae’n gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth am ran helaeth y diwrnod erbyn hyn.

darllenwch ymlaen... 3 Mehefin 2007

Profiad Gwaith ar gyfer Hannah Barratt

Tua chanol Mawrth, llwyddodd Agoriad i gynnig lleoliad gwaith i Hannah Barratt o Fairbourne. Mae Hannah ar hyn o bryd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, ac mae’n dilyn cwrs Diploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Iechyd. Treuliodd wythnos gyda staff Agoriad ym Meirionnydd, gan weld drosti’i hun y math o waith sy’n cael ei wneud gennym.

darllenwch ymlaen... 22 Mawrth 2007

Gwobrau Phillip Case 2006Gwobrau PHILLIP CASE, 2006

Cynhaliwyd noson wybrwyo Phillip Case eleni yn ystod mis Chwefror, 2007 yng nghlwb rygbi Bangor. Bwriad y wobr hon ydy rhoi cydnabyddiaeth i’r cyflogwyr hynny sy’n fwyaf cefnogol i waith Agoriad, ac mae’r noson ei hunan yn gyfle gwych i gyflwyno unrhyw dystysgrifau mae’n defnyddwyr wedi’u hennill yn ystod y cyfnod yn arwain at y seremoni.

darllenwch ymlaen...
18 Mawrth 2007
Linda WhiteLinda White – 15 mlynedd yng Nghaffi Coed-Y-Brenin

Roedd dydd Gwener, 9 Mawrth yn ddiwrnod arbennig iawn i Linda White o Fethesda gan ei bod bryd hynny’n dathlu 15 mlynedd o wasanaeth ffyddlon yng Nghaffi Coed-y-Brenin, ar ôl dechrau gweithio yno ar 9 Mawrth, 1992.

darllenwch ymlaen... 15 Mawrth 2007

Penodi Staff RURALPenodi Staff RURAL

Yn dilyn hysbysebu yn ystod mis Rhagfyr, 2006, mae tîm RURAL wedi dechrau ar ei waith erbyn hyn, a thua canol Chwefror 2007, dechreuodd y criw cyntaf o ddefnyddwyr gwasanaeth RURAL gymryd rhan yn y cynllun.

darllenwch ymlaen... 27 Chwefror 2007

Lea PritchardLleoliad Gwaith Y Brifysgol Agored

Un o hyfforddai Gwaith Cymdeithasol Cyngor Gwynedd yw Lea Pritchard o Lanystumdwy. Mae Lea wedi gweithio i’r cyngor ers 5 mlynedd ac yn treulio rhan fwyaf o’i hamser fel cynorthwydd i rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.

darllenwch ymlaen... 14 Chwefror 2007

Portread ‘Cam at Waith’ Dyfed GriffithsPortread ‘Cam at Waith’ Dyfed Griffiths

Yn wreiddiol, penodwyd Dyfed yn wastrawd (stable groom) yng Nghanolfan Fridio a Marchogaeth Lusitano Pen Llŷn ym Mhwllheli, gyda chefnogaeth cynllun ‘Cam at Waith’. Ond dechreuodd Dyfed deimlo fod ganddo angen newid cyfeiriad, ac fe gafodd ei benodi i’w swydd bresennol fel ‘porthor cegin’ yng Nghlwb Golff Nefyn a’r Cylch ym mis Awst, 2006.

darllenwch ymlaen... 5 Chwefror 2007

Nia ThomasCatrin RichardsProfiad Gwaith gydag Agoriad i fyfrwyr sy’n astudio at radd mewn cymdeithasg

Gan fod y profiad gwaith a gafodd Beth Thomas yn gynnar yn 2006 wedi bod yn gymaint o lwyddiant, penderfynodd Agoriad gynnig cynllun tebyg eleni i 2 fyfyriwr sydd ar hyn o bryd ar flwyddyn gyntaf eu cwrs gradd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor.
darllenwch ymlaen... 1 Chwefror 2007

FFARWELIO Â MANON A SHARONFFARWELIO Â MANON A SHARON
Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig 2006, ffarweliodd dwy gyfarwydd ag Agoriad pan symudodd Manon Evans a Sharon Morris i swyddi newydd, mewn porfeydd bras gobeithio!
darllenwch ymlaen... 13 Ionawr 2007

Swyddi Prosiect RURAL Swyddi Prosiect RURAL
Mae Agoriad wedi cadarnhau cyllid INTERREG ar gyfer cynnal prosiect peilot cyflogaeth anabledd, R.U.R.A.L, ledled Ynys Môn a Gogledd Gwynedd am 18 mis yn dechrau ym mis Ionawr 2007.
27 Tachwedd 2006

Ychwanegiad at erthygl Coed y BreninYchwanegiad at erthygl Coed y Brenin.
Yn y llun fe welwch hefyd nifer o gacennau a wnaed â llaw i gomisiwn yng Nghaffi Coed y Brenin. Mae’r Caffi’n gallu gwneud cacennau i archeb ar gyfer dathliadau arbennig, gan wneud hynny i safon eithriadol uchel.
darllenwch ymlaen... 15 Tachwedd 2006

Ymweliad Agoriad â Nanhoron, 19 Hydref, 2006
Ymweliad Agoriad â Nanhoron, 19 Hydref, 2006
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, ymwelodd grwp o Agoriad â Phlas Nanhoron yn Nwyfor fel rhan o gynllun Gateway Gardens Trust. Mae hwn yn gynllun sy’n derbyn ei arian o gronfeydd y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng Cronfa Loteri’r Dreftadaeth, a hefyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
darllenwch ymlaen... 8 Tachwedd 2006
Pat Crosby | Cae Môr Hotel, LlandudnoPortread 'Cam At Waith' O Pat Crosby

Bu mis Gorffennaf 2006 yn fis i’w gofio i Pat Crosby o Dwygyfylchi ger Penmaenmawr, gan mai dyma’r adeg iddi ddychwelyd at waith cyflog.

darllenwch ymlaen... 6 Tachwedd 2006

Gerlad Parr ac Arthur Beechey | Llwyddiant Wrth Godi ArianLlwyddiant Wrth Godi Arian

Mae gan Agoriad ddyled fawr i Gerald Parry o Gaernarfon am ei ymdrechion clodwiw i godi arian i’r achos, yn arbennig gan fod cryn dipyn o’i angen arnom ar y pryd. Er mwyn codi pres, cymerodd Gerald ran yn Ras Ryngwladol Eryri a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf.

darllenwch ymlaen... 4 Tachwedd 2006

Caffi Coed Y Brennin, BethesdaYn ystod Mawrth, 2006, daeth rhedeg Caffi Coed y Brenin, Bethesda o ddydd i ddydd yn rhan o gyfrifoldeb Agoriad, ac yn un o’i wasanaethau. Mae’r caffi yn cael ei redeg gan naw o ddefnyddwyr gwasanaethau Agoriad, ac mae’n rhan bwysig o’r gymuned leol ym Methesda, gan ddenu cwsmeriaid o bell ac agos. darllenwch ymlaen... 20 Hydref 2006

Kevin Wyn JonesPortread ROBUST – Kevin Wyn Jones

Daeth Agoriad i gysylltiad â Kevin am y tro cyntaf ym mis Mawrth, 2006 pan ddaeth i gyfarfod sefydlu grwp ROBUST yn ne Gwynedd, gafodd ei gynnal yn Nolgellau.

darllenwch ymlaen... 06 Hydref 2006


Yn ôl i'r top

Valid HTML 4.01!